P-05-832 Diwygio’r Cod Derbyn i Ysgolion ynghylch Plant a Anwyd yn ystod yr Haf, Gohebiaeth – Cyngor Gwynedd at y Cadeirydd

Annwyl David J Rowlands

Ar ran Dilwyn O Williams (Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd) fe gyflwynaf atebion Gwynedd i’ch ymholiad isod.

             Manylion polisi eich awdurdod mewn perthynas â cheisiadau am ohirio mynediad i’r ysgol;

             Unrhyw bolisi penodol rydych chi'n ei weithredu mewn perthynas â cheisiadau am ohiriadau ar gyfer plant a anwyd yn yr haf (y rhai a anwyd rhwng 1 Ebrill a 31 Awst);

Atodaf ein polisi ynglŷn â derbyn y tu allan i’r grŵp oedran arferol sydd yn cyd-fynd â Chod Derbyn Llywodraeth Cymru. Er na fyddai gan amlaf yn briodol i blentyn gael ei roi mewn grŵp blwyddyn nad yw’n cyd-fynd â’u hoedran cronolegol rydym yn ystyried pob cais yn ofalus a phenderfynu ar sail amgylchiadau pob achos a drwy ymgynghori â’r rhieni a’r ysgol, ac yn benodol, beth fyddai fwyaf buddiol i’r plentyn. Byddwn yn ystyried adroddiad gan Seicolegydd Addysg mewn pob achos.

Ar gyfer pob un o'r tair blynedd diwethaf:

             nifer y ceisiadau a ddaeth i law i ohirio mynediad i'r ysgol;

             nifer y ceisiadau a ganiatawyd neu a wrthodwyd;

             nifer y ceisiadau am ohirio mynediad i'r ysgol oherwydd bod plentyn wedi'i eni yn yr haf (fel y'i diffinnir uchod) neu oherwydd nad oedd yn barod i ddechrau ysgol amser llawn oherwydd ei ddyddiad geni;

             nifer y ceisiadau hyn a ganiatawyd neu a wrthodwyd; ac

             yn achos unrhyw geisiadau a ganiatawyd, a gafodd y plant hynny eu derbyn wedi hynny yn eu grŵp oedran arferol neu y tu allan iddo.

Nid yw’r Awdurdod Mynediad wedi derbyn unrhyw gais ffurfiol gan rieni i ddechrau yn flwyddyn Derbyn yn lle blwyddyn 1 yn ystod y 3 mlynedd diwethaf.

Yn gywir

Owen Owens

Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg

Senior Manager Education Resources Service

Swyddfa'r Cyngor

Caernarfon

GWYNEDD

LL55 1SH